Fore Sul Rhagfyr 1af, a hithau’n Sul Cymun, cawsom ein hatgoffa mai dyma bregeth olaf Eirian fel gweinidog y Tabernacl. Er ein bod i gyd yn gwybod fod hynny ar ddod, ac er fod Eirian ei hun wedi ein paratoi ers blynyddoedd am hyn, roedd wynebu realiti’r sefyllfa yn brofiad chwithig iawn. Fel y dywedwyd ar derfyn yr oedfa wrth ddiolch iddo, rydym yn ffodus tu hwnt fodpregethu Eirian mor rymus ag erioed, a’i gyfraniad i fywyd yr eglwys yn dal yn ddisglair.
Bydd cyfle i gydnabod ei wasanaeth hir yn fwy teilwng yn y flwyddyn newydd, ar ôl ei driniaeth, ond yn y cyfamser y cyfan fedrwn ni ei wneud yw diolch yn ddiffuant iddo am roi cymaint i bob un ohonom.
Yn ystod gwanwyn 1970 y daeth Ann ac Eirian i fyw i Efail Isaf, ac Eirian newydd ei benodi i swydd fel athro yn Ysgol Uwchradd Cantonian, Caerdydd. Cyn hynny, roedd wedi bod yn weinidog am wyth mlynedd, gan wasanaethu eglwysi yng Nghasllwchwr a Melincryddan, Castell Nedd. Yn wir, byddai’n dal i bregethu yng Nghastell Nedd ar nifer o Suliau wedi symud i’r ardal hon, gan adael Ann a’r bechgyn i fynychu’r Tabernacl ac adrodd yn ôl iddo am sut le oedd yno. A’r gwir yw mai darlun go druenus oedd hwnnw, gyda chriw bach iawn yn dod at ei gilydd i addoli, yr arian yn brin a’r iaith yn gwegian. Bu’r gynulleidfa heb weinidog ers 17 mlynedd. Doedd dim dal ym mha iaith y byddai’r oedfa ar y Sul, gan fod hynny’n dibynnu ar y pregethwr.
Ers yn agos i ddwy flynedd, roedd y Tabernacl a Bethlehem, Gwaelod-y- garth wedi bod yn chwilio am weinidog ar y cyd. Ond yn ofer.
Tabernacl oedd y gwannaf un o gapeli’r cylch ar y pryd, a’r disgwyl oedd mai ym Minny Street neu Ebeneser Caerdydd y byddai’r teulu bach newydd yn ymaelodi o ddifrif. Ond nid felly y bu. Dechreuodd Eirian ddilyn ei wraig i’r Tabernacl pan fedrai, a manteisiodd y swyddogion yno ar ei bresenoldeb, gan ei wahodd i fod yn ddiacon, ac wedi ei adnabod yn well, gofynnwyd iddo lenwi’r pulpud yn rheolaidd. Oni bai am hynny, fyddai dim arian i dalu’r biliau, a byddai’r drysau wedi gorfod cau.
Llun Isod: Rhaglen Cyfarfod Sefydlu Eirian
Yn raddol, dechreuodd nifer yr aelodau gynyddu, ac ym 1973 fe sefydlwyd Eirian yn weinidog anrhydeddus. Erbyn hyn roedd yr aelodaeth wedi cyrraedd 64. Derbyniwyd 40 o aelodau newydd yn ystod y misoedd nesaf, a pharhaodd y twf hwnnw nes bod 143 ar y llyfrau erbyn 1980. Heddiw, mae’r Tabernacl yn gryfach nag erioed, gyda 180 ar y llyfrau.
(E.D. Rhag 2013)