Dillad i Ffoaduriaid – Y Diweddaraf

DIOLCH  YN  FAWR

Diolch yn fawr i bawb fu mor hael eu rhoddion i’r ymgyrch helpu ffoaduriaid. Derbyniwyd cyflenwad helaeth o ddillad ac esgidiau pwrpasol a chyfraniadau ariannol sylweddol, a bu deuddeg o wirfoddolwyr yn brysur dros dri diwrnod yn didoli, pacio a chludo popeth.

Rydyn ni’n ffodus iawn bod y capel a’r Ganolfan ar gael i ni fel stordai diddos dros y cyfnod casglu. Mae ugain bocs mawr bellach ar eu ffordd i wersyll Moria ar Ynys Lesbos yng Ngwlad Groeg. Difawyd rhan o’r gwersyll yn ddiweddar gan dân mawr, a bydd ein llwyth ni yn helpu i liniaru ychydig ar yr amgylchiadau dybryd yn dilyn hynny.

 

Mae Lisa Maria Devlin, sy’n derbyn ein cyfraniadau ni yng Ngogledd Iwerddon wrth ei bodd gydag addasrwydd a safon y dillad. Maen nhw’n cyrraedd Ballymena dros nos o Gaerdydd, mewn lorri DHL. Fel y gallwch ddychmygu, dydy cludiant mor effeithiol ddim yn rhad, ac mae’r cyfraniadau ariannol yn helpu tuag at y treuliau hyn.

 

 

 

Rydyn ni’n lwcus mai elusen St Vincent de Paul sy’n gyfrifol am y cludiant i Wlad Groeg – taith deg diwrnod – ac yn tracio’r lorri ac yn sicrhau bod y nwyddau’n cyrraedd y dwylo iawn. Mae’r lorïau’n gadael Ballymena’n rheolaidd, a’u llwyth yn amrywio o nwyddau meddygol a bwyd a dillad i bebyll ac offer ymarferol, yn ôl y galw. Maen nhw’n barod i helpu ble bynnag mae angen, ac mae’n fraint cael bod yn rhan fechan o’u gweithgarwch.

Diolch yn fawr iawn i chi am fod mor barod i roi ysgwydd dan y baich.

Mae casgliad o luniau i’w gweld YMA