Archif Awdur: Rheolwr

Hanes Tabernacl 1970 -1989

Adfywiad Tabernacl

Cadwodd pentref Efail Isaf ei gymeriad Cymraeg a Chymreig am flynyddoedd lawer, a does dim dwywaith nad oedd y capel yn gymorth mawr i hynny. Fel ym mhob capel, bu  yma genedlaethau o arweinwyr a chymwynaswyr disglair, a hwythau’n bobl oedd yn gefn i’r bywyd Cymraeg mewn talcen caled ym Mlaenau Morgannwg am flynyddoedd lawer. Bu’r Parchg. D. Stanley Jones yn weinidog yma am flynyddoedd, ac roedd bri mawr ar y côr plant oedd yn perthyn i’r capel. Ond maes o law, fe adawodd y  dylanwadau estron eu hôl,  ac fe ddechreuodd yr achos ddirywio yn y Tabernacl.

Ar ddiwedd y chwedegau, dim ond 40 o aelodau oedd yma, a’r rhan fwyaf o’r rheiny yn bensiynwyr. Saesneg oedd iaith yr Ysgol Sul, ac fe ystyriwyd troi’r oedfaon yn Saesneg.  Ond yna, fe gyrhaeddodd gwaed newydd, egni  ffres, a brwdfrydedd heintus. Wrth i’r ysgolion Cymraeg gael eu sefydlu yn y fro, denwyd mwy a mwy o Gymry Cymraeg i ymsefydlu yn y cylch, a dechreuwyd cenhadu o’r newydd. Dyrchafwyd y Parchg. D. Eirian Rees yn weinidog gyda chefnogaeth werthfawr pobl fel Edward Morris-Jones a Penri Jones, ac yn raddol daeth tro ar fyd.

Ochr yn ochr â’r bywyd newydd yn y capel ei hun, daeth Efail Isaf yn ganolbwynt i nifer o weithgareddau cymdeithasol a diwylliannol. Cynhaliwyd Eisteddfod Y Garth ar ddechrau’r ‘1970au, ac er fod honno wedi hen ddiflannu, mae Côr Godre’r Garth yn rhywbeth a dyfodd ohoni. Yn ddiweddarach daeth Côr Merched y Garth a Pharti’r Efail, a’r tri grŵp yn ymarfer yn rheolaidd yn y pentref, naill ai yn y neuadd neu yn festri’r capel.

1970    Canmlwyddiant y capel presennol. Derbyniwyd y Parchedig a Mrs Eirian Rees yn aelodau.     
Gwneud y Parchedig D. Eirian Rees yn ddiacon a gwahoddwyd ef i bregethu o leiaf un Sul y mis.            

1973    Cwrdd ymgysegru i’r holl eglwys gan sefydlu Y Parchedig D. Eirian Rees yn weinidog anrhydeddus. Aelodaeth yn 64.

1974    Peintiwyd y capel.

1976    Derbyniwyd 41 o aelodau yn ystod y flwyddyn.

1977    Adeiladwyd ystafell ymolchi a chegin i’r tŷ capel ar gost o £6,806.84c.

1980    Penderfynwyd atgyweirio’r festri gan ychwanegu estyniad ar gost o £6,600.
Dathlu pen-blwydd y capel presennol yn 110 mlwydd oed. Aelodaeth yn 143.

1970’au


Ceir darlun o sefyllfa Tabernacl yn ystod y 70’au gan Penri Jones, a oedd yn Ysgrifennydd y Capel o 1971 i 1975. Ysgrifennodd am y Tabernacl yn ei lyfr Capeli Cymru.

“Ar ddiwedd y ’60au roedd aelodaeth y capel yn 40 a’r rhan fwyaf yn bensiynwyr. Ond daeth ychydig o deuluoedd newydd a chynhaliwyd ymgyrchoedd o dŷ i dŷ … daeth pobl newydd, pan welsant cyn lleied oedd yn y gwasanaeth ni ddaeth y rhan fwyaf yn ôl, ond yn araf roedd newid yn digwydd.”

Yn nechrau’r ’70au roedd yr Ysgol Sul yn Saesneg ond gyda’r cynydd mewn galw am addysg Gymraeg roedd yn amlwg fod angen Ysgol Sul Cymraeg hefyd. Daeth hyn a chwyldro i fywyd y capel gyda aelodaeth yr ysgol Sul yn cyrraedd 80.

Ffurfiwyd Teulu Twm ar gyfer y bobl ifanc.

Cynyddodd aelodaeth y capel o 78 yn 1974 i 143 yn 1978.

ATGOFION PENRI JONES
(Allan o Capeli Cymru, Gwasg y Lolfa, 1983)
Cofiaf yn dda symud i fyw o Gaerdydd i Don-teg yn 1968 ac ar ôl clywed pregeth Saesneg yn un neu ddau o gapeli honedig Gymraeg y cylch, dyma fentro i’r Tabernacl un bore Sul, Nid oeddwn yn gwybod enw’r capel, pa enwad ydoedd na chwaith iaith y gwasanaethau. Holi gwraig yn y cyntedd a
chael yr esboniad yn nhafodiaith bersain Cwm Taf: ‘Cwmra’g yw popeth yma hyd yn hyn.’
   Gwyrth oedd canfod cymdeithas o bobl yn byw ryw ychydig o filltiroedd o Gaerdydd ac yn siarad Cymraeg fel iaith naturiol yn y dafodiaith frodorol. Y frenhines yn eu mysg oedd Anti Fei, neu Elvira Davies, a fu’n cyfeilio ac yn hyrwyddo cerddoriaeth ymysg plant y Tabernacl ers cenedlaethau.
   Ar ddiwedd y chwedegau 40 oedd rhif aelodaeth yr eglwys a’r mwyafrif yn bensiynwyr. Hwy oedd y to olaf o Gymry Cymraeg yn y pentref. Saesneg erbyn hyn oedd iaith yr Ysgol Sul er bod rhai Cymry o’r Ysgol Gymraeg yno. Pur ddigalon oedd trwch yr aelodau ynglŷn â’r dyfodol, a bu cwrdd eglwys i ystyried newid y gwasanaethau i Saesneg, ond pleidleisiodd bron pawb yn erbyn hynny. Ymaelododd nifer fechan o deuluoedd newydd yn yr eglwys a dechreuwyd cynnal Ysgol Sul Gymraeg ar fore Sul.
   Gan fod y Cymry Cymraeg yn symud i’r ardal yn gyson a’r Ysgol Gymraeg yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn roedd cyfle gwych i gryfhau’r eglwys. Paratowyd pamffled at bwrpas cenhadu ac aethpwyd o gwmpas yr ardal yn gwahodd pobl i fynychu. Roedd y Parchedig Eirian Rees wedi ymsefydlu yn y pentref ac etholwyd ef yn weinidog. Deuai rhai i’r oedfaon a digalonni’n syth o weld dim ond rhyw ddwsin wedi dod ynghyd ar nos Sul ond arhosai ambell un ac yn araf daeth yn amlwg fod yr eglwys ar gynnydd.

Auntie Vi yn 80

 

Tafod Elái Hydref 1985

1980’au

Wrth i’r capel barhau i dyfu bu rhaid edrych ar yr adeilad a’r adnoddau a phenderfynwyd ar nifer o welliannau

1980 – Atgyweiriwyd ac adeiladwyd estyniad ir Festri ar gost o £6,600.

1985 – Adnewyddwyd to y Capel, gosodwyd ffenestri newydd, tynnwyd allan y “Sêt fawr” a gosodwyd trawst newydd i gynnal y galeri.

1987 – Adeiladwyd wal newydd o gwmpas y fynwent a gwnaed gwelliannau pellach i’r festri ar gost o £11,000.

1989 – Gosodwyd toiledau newydd, yn costio £5,000.

 1991 – Gosodwyd organ newydd, yn costio £6,000.

 

Teulu Twm

Wrth i’r to newydd o blant dyfu yn y capel gwelwyd yr angen am weithgareddau i bobl ifanc. Fe enwyd y criw ar ôl Twm, cath Eirian ac Ann Rees a ymunai â’r dyrnaid o bobl ifanc oedd yn cyfarfod bob nos Sul ar yr aelwyd yn Efail Isaf yn 1985.

Mewn cyfnod byr tyfodd Teulu Twm ac erbyn 1988 roedd dros 50 o bobl ifanc yn ymgynull yn Festri’r Tabernacl yn wythnosol. 

 

 

 

Hanes Tabernacl 1990 – 2010

Cynyddu ac Ehangu

Parhaodd y Tabernacl i fod yn llewyrchus gan ddenu aelodau newydd.

Medi 2009 – Llun John Sayle

Yr Oedfaon

Mae Tabernacl wedi gweld ffurf ac awyrgylch yr oedfaon yn newid ac yn dod yn fwy cyfoes dros y blynyddoedd. Roedd y capel ymhlith y cyntaf i ddysgu’r caneuon ac emynau modern sy’n rhan o fywyd pob capel erbyn hyn. Bu’r Gweinidog yn ogystal â phregethu a chynnal y gwasanaethau, yn annog aelodau’r gynulleidfa i gymryd cyfrifoldeb am rannau o’r oedfa.

Mae Efengyl Crist yn parhau i fod yn gonglfaen i holl weithgarwch y capel.

Ysgol Sul

Mae’r Ysgol Sul wedi cynnal y capel gan fagu to ar ôl to o aelodau newydd.

Mae’r brwdfrydedd a’r gefnogaeth yn parhau ac mae ffrwyth y gwaith yn cael ei weld yn aml yn y Gwasanaethau Teulu misol yn ogystal a pherfformiadau arbennig adeg y Cynhaeaf a’r Nadolig.

Elusennau

Mae’r traddoddiad  o gefnogi elusennau a’r genhadaeth wedi bod yn rhan o fywyd y capel dros y blynyddoedd ac ar ddechrau 1990 ffurfiwyd pwyllgor i ehangu’r gwaith.

Yn ogystal â chasglu arian i Cymorth Cristnogol yn flynyddol mae’r capel yn cefnogi nifer o elusennau lleol ac wedi ymateb ar sawl achlysur i alwad brys am adnoddau i argyfyngau ar draws y byd .

  

Ehangu yn 2010

I ateb y galw am well cyfleusterau bu’r capel yn edrych ar ffyrdd i ychwanegu at y ddarpariaeth oedd ar gael i’r gynulleidfa ac i’r gymuned.

Furfiwyd Cwmni Elusennol i warchod buddiannau’r Capel a gyda chymorth grantiau a chefnogaeth y gynulleidfa cychwynwyd ar y gwaith sylweddol i ehangu’r festri a gwella’r capel.

Y cam cyntaf oedd adeiladu’r Ganolfan a agorwyd ym Medi 2010. 

Gwres yr Efail

Fel rhan o ddathliadau agor y Ganolfan ym Medi 2010 cyhoeddwyd llyfryn sy’n olrhain hanes y Tabernacl ac yn arbennig y datblygiadu diweddar. Mae’r gyfrol yn deyrnged i Eirian Rees am ei gyfraniad disglair a’i weledigaeth sicr fel bugail.

 

Agor y Ganolfan

Anerchiad Geraint Stanley Jones
wrth agor y Ganolfan, Tabernacl, Efail Isaf. 5 Medi 2010

TABERNACL, EFAIL ISAF

Diolch am ‘Wres yr Efail’ ac am y cyfle i brofi ychydig ohono unwaith eto.
Mae hi bron yn drigain mlynedd, ers i mi sefyll yn y fan hon, ar Fore Sul y Plant, yn adrodd ‘ Duw cariad yw’ , a nhad yn gwgu arnai, am mod i heb ddysgu adnod newydd am yr ugeinfed tro.

Fe allai nhad ddweud, fel Emlyn Williams, wrth iddo gychwyn ei anerchiad lywyddol yn Steddfod y Rhyl, erstalwm. “Bachgen bach o Sir y Fflint ydwi” . Dyna oedd nhad, ac er iddo golli acenion y sir, fe fu dylanwadau Ffynnongroew a’r ardal yn gry arno trwy ei oes.

OND – ‘Crwtyn o’r Efail ‘ ydwi. Cael fy ngeni ym Mhontypridd a’m magu yma yn yr Efail Isaf am y ddwy flynedd ar bymtheg cynta o’m hoes. A dwi’n eitha sicr fod dylanwadau’r blynyddoedd hynny, wedi bod yr un mor gry arna i, ag y bu Ffynnongroew ar nhad. Er holl grwydro’r blynyddoedd, yma mae’ ngwreiddiau.

Fe lifodd cryn dipyn o ddŵr drwy nant fach y Dyffryn, ers i’r Dr Gareth Edwards a minnau ddal y trên, o orsaf Efail Isaf, ar ein ffordd i’r Brifysgol ym Mangor, a dwi’n hynod falch ei fod yma efo ni bore ma, gan fod y fangre hon mor bwysig yn ei hanes bersonol o ag ydio i mi. Mil naw pump tri oedd hi ac roedd y siwrne honno yn fwy tyngedfennol i mi na gadael am y coleg, gan fod nhad a mam ar fin symud i Dregwyr, a Thabernacl newydd yn eu hanes.

Minnau hefyd, felly, yn torri cysylltiad â chymdeithas oedd wedi bod yn gymaint rhan o’m magwraeth. Cymdeithas war, hynod ddiwylliedig, a aeth ati’n egniol i oresgyn pryderon ail rhyfel byd, a’i rwystrau, trwy weithgaredd unigol ac ar y cyd, gyda phenderfyniad llawen, ac mewn ysbryd gwir Gristnogol, o oddefgarwch a charedigrwydd.

Fel  teulu mawr o deuluoedd rydwi’n cofio’r Tabernacl yn y dyddiau hynny, – y Chubbs, y Rossers, y Curnows, Olivers, Rees, Rowlands, Humphreys, Davies, Jones, Morgan, Griffiths, Powell ac yn y blaen. Yn eitha treibal yn ei ffordd ond yn cyd dynnu i greu cymdeithas gadarnhaol, hwyliog.
Mi roedd yna weithgarwch diddiwedd yma yn y capel, bryd hynny hefyd, yn enwedig i fab y gweinidog, oedd ar alwad parhaol i gymryd rhan mewn rhywbeth neu i gilydd, a thu allan, mi roedd yna lot o sbort i ni blant. Mi roedd yr allotments, drws nesa i’r fynwent, a’r fynwent ei hun hefyd, yn llefydd da i chwarae cuddio a cowbois ag indians, er waetha ymdrechion gwarchodol y diweddar annwyl Tom Powell Ac i mi’n arbennig, yr oedd yard y stesion, (bellach wedi diflannu) drws nesa i lle ro ni’n byw, yn ysgogi’r dychymyg i greu pob math o sefyllfaoedd anhygoel, a breuddwydio am bellafoedd byd.

Cynhaeafu wedyn, gyda cheffylau, ar ffermydd Y Dryscoed, a Tŷ Newydd, a dilyn yr helfa fyddai’n ymgynnull wrth Y Carpenter’s Arms.( Unwaith yn unig, cofiwch chi y bues i mewn yn y dafarn, a hynny i weld a chlywed Tom Bryant yn chwarae’r delyn. A hyd heddiw fedrai ddim camu dros y drws rhag ofn i nhad glywed!)

 

‘Roedd peryglon rhyfel yn bell iawn i ffwrdd i ni blant yn Efail Isaf, gan ein bod ni’n teimlo mor ddiogel yn ein bydau bach ein hunain. Adeg, a lle, arbennig o dda, i feithrin creadigrwydd a dychymyg.

Ac ar ôl y rhyfel, y Carnifal a’i Fandiau Bazooka yn y cae gyferbyn a’r capel, a the partis llawn jelly a blankmange ar bob achlysur posib yn y Festri.
Ia’r festri, sy’n ganolbwynt i’r dathliadau heddiw. O gofio am gwrs y mywyd i, yn y byd darlledu, mae’n siŵr gen i mae yn y festri y cefais i flas am y tro cynta, ar y byd theatrig, a afaelodd ynof yn ddiweddarach. Dwi’n siŵr mae yn y fan honno y gwelais i ffilm am y tro cynta – sef y sinema deithiol, a ddeuai o gwmpas adeg rhyfel, yn gymysgedd o ffilmiau propaganda, a chomedïau di- sain Chaplin, Laurel and Hardy, ag ati.

Ond yn fwy pwysig wrth gwrs, oedd y cyfle i ddysgu sol-ffa, i ganu, i adrodd, a chymryd rhan yn nramâu yr anfarwol Bopa. ‘Pwca’r Trwyn’, ‘Mrs Morgrugyn a Sioncyn y Gwair’ a’r gweddill. Mae nhw i gyd gen i o hyd. A’r pasiant mawreddog hwnnw a grëwyd ganddi i ddathlu Steddfod Caerffili. Gareth yn Fardd Coronog a finnau’n sblenydd o Archdderwydd – ysywaeth, am yr unig dro yn ein hanes.

Ia Bopa – Margaret Rosser, Megan Illtyd, bach o gorff ond anferthol o fawr o egni, brwdfrydedd, penderfyniad, a thalentau. Ac, wrth gwrs, fel nhad, ar dan, mewn cyfnod digon llugoer, dros achos iaith a diwylliant. Ac wrth ei hochor bob amser Aunti Vi – Elvira Davies, oedd yn medru troi ei llaw at unryw offeryn allweddol, ac unryw fath o gerddoriaeth, heb feddwl ddwywaith.

Hi oedd meistres y ‘crossover’ rhwng piano’r dafarn a’r operetta, accordion y ddawns,  harmonium y capel a’r festri, mor ddi-lol â neb welais i erioed mewn hanner canrif o ddarlledu. Fe fyddai’r ddwy wedi bod yn gaffaeliad i S4C.

Wrth geisio dilyn hynt a helynt y Tabernacl a’r pentre dros y blynyddoedd mae’n amlwg fod ysbryd Bopa ag Anti Vi, yn dal yn fyw yn eich amryfal weithgareddau, crefyddol, cymdeithasol, a cherddorol, ac mae’n amlwg, o fod yn eich plith bore ma, fod y gwmnïaeth deuluol, a ddylanwadodd arna i a Gareth a’n cenhedlaeth ni, yn dal i fodoli.

‘R oedd yma le amlwg i geffylau yn y dyddiau hynny. Doedd hi ddim yn beth rhyfedd, felly, i stabal gysurus gael ei adeiladu iddyn nhw dan y festri. Nag ychwaith o edrych nôl, mod i wedi mynnu treulio cymaint o oriau pleserus dros y blynyddoedd yn marchogaeth.

I feel, a little like Dr Who this morning. My time capsule has taken me back sixty and more years, to a place once so familiar, so changed, yet so the same. So much has happened in the interim years, and yet the link between my yesteryear in Efail Isaf, and especially its Tabernacl, and my being here this morning, is remarkably in tact. I’ve made a point over the years of trying hard, not to revisit old memories, in an attempt to encourage new experiences. But that does not mean airbrushing them away. If they have been worthwhile, they remain as part of who I am. Such is the connection between my yesterdays in this place, and my today in this spot. Being here is an extraordinarily happy experience, and to be opening a new chapter in the life of Chapel and Village is a great honour.

Y mae llwyddiannau’r Tabernacl sy’n dal i ddatblygu fel canolfan grefyddol, ddiwylliadol a chymdeithasol, mewn oes o ddymchwel Tabernaclau, yn rywbeth i’w ddathlu. Fe fyddai’n nhad am i mi ychwanegu- ‘Annibynia ar ei orau’.

Diolch i chi i gyd.
Geraint Stanley Jones
(Traddodwyd yn y Tabernacl, Efail Isaf, Medi 5ed 2010)TABERNACL, EFAIL ISAF

Y Cynllun Adeiladu

Y Cynllun Adeiladu

Cawsom wybodaeth gyffrous am y cynllun adeiladu gan Helen Middleton ac Emlyn Penny Jones mewn cyfarfod arbennig ar brynhawn Sul yn niwedd Mehefin. Clywsom y bydd y tendr ar gyfer gwneud y gwaith yn cael ei hysbysebu’n fuan, a’r gobaith yw y bydd yr adeiladwyr yn dechrau arni yn gynnar ym mis Medi, gyda’r nod o gwblhau’r cyfan erbyn y Nadolig.

Ar hyn o bryd, rydym yn rhagweld y bydd y costau yn fwy na’r hyn sydd gennym yn y coffrau, ac felly bydd yn rhaid chwilio am grant a gofyn am fenthyciad gan Undeb yr Annibynwyr.

Hyd yn oed wedyn, fydd yr arian i gyd ddim ar gael gennym. Y bwriad felly yw troi at y gynulleidfa i ofyn am gyfraniadau arbennig, unwaith ac am byth, i’n galluogi i wneud y gwaith. Byddwch yn derbyn llythyr yn weddol fuan gyda rhagor o fanylion, yn gofyn am gyfraniad.

O gofio na fu’n rhaid i ni fel aelodau dalu am y Ganolfan, ac na wariwyd unrhyw swm sylweddol ar y capel ers tua 30 mlynedd, teimlwn yn hyderus y bydd pawb yn hael eu cefnogaeth i’r cynllun hwn.

Capel

Ar hyn o bryd, rydym wrthi’n ceisio codi arian ar gyfer cynllun adeiladu uchelgeisiol a fydd yn golygu  ail-wampio’r capel a’r festri i’w gwneud yn fwy addas i ateb y gofynion o’n safbwynt ni fel cynulleidfa a’r gymuned yn gyffredinol. Rydym yn teimlo bod yr adeiladau presennol yn llyffetheirio gwaith yr eglwys, yn ein rhwystro rhag symud gyda’r oes a rhag bod yn fwy mentrus yn ffurf  ein hoedfaon.

O safbwynt y festri, mae’r adeilad yn rhy fach erbyn hyn.  Does dim modd cynnal mwy nag un gweithgaredd yr un pryd, ac mae’r cyfleusterau yn annigonol. Yn syml, mae angen lleoliad mwy i’r Ysgol Sul ac ar gyfer Teulu Twm fel ei gilydd. Byddwn yn codi  estyniad i ganiatáu ychwanegu cegin, toiled i’r anabl ac ystafell ychwanegol at yr adeilad presennol.  Bydd un ystafell yn cynnwys meithrinfa a man chwarae gwlyb. O ganlyniad, bydd yn bosib cynnal mwy nag un gweithgaredd ar yr un pryd. Bwriedir hefyd gosod offer clyweled yno at ddibenion y capel ac unrhyw gymdeithas o’r tu allan a fydd yn defnyddio’r lle.Taflen

Bydd creu amgylchfyd mwy hylaw i ddefnyddwyr yn golygu creu mwy o amrediad i gwrdd ag anghenion  grwpiau lleol sydd eisoes yn bodoli ac i greu gweithgareddau newydd.  Ar ben hyn i gyd, bydd codi safon y cyfleusterau, gan sicrhau bodloni gofynion cyfreithiol, yn annog sefydliadau o’r tu allan i’r capel i ddefnyddio’r ddarpariaeth.   Yn y capel cyfnewidir yr eisteddleoedd sefydlog ar y llawr gwaelod am seddau unigol, symudol,  i greu awditoriwm gyda seddau i  300 a fydd yn cynnig gwell cyfforddusrwydd i’r gynulleidfa.  Gosodir cyfarpar clyweled modern a chaiff y cyntedd ei ymestyn.  Bydd y prosiect yn cynnwys gosod system wresogi effeithiol, garedig i’r amgylchedd. Bydd hefyd yn arwain at uwchraddio’r adeiladau presennol i sicrhau eu bod yn ateb gofynion personau anabl a rheoliadau iechyd a diogelwch.

Gyda golwg ar y defnydd ychwanegol a ragwelir o’r adeiladau, neilltuir tir o fewn y libart ar gyfer maes parcio gyda mynediad uniongyrchol i’r adeiladau “newydd”.  Bydd hyn yn cynnig mynediad/allanfa ddiogel i blant bach a phersonau anabl fel ei gilydd. Bydd hefyd yn lleihau’r parcio ar y stryd yn y gymdogaeth – mater sy’n peri consyrn ar y funud oherwydd y ffyrdd cul sy’n arwain at y Tabernacl.Prosbectws

Yn wahanol i lawer o gapeli ac eglwysi y dyddiau hyn sy’n chwilio am gyllid dim ond i gefnogicynulleidfa sy’n edwino neu i gynnal adeiladau sydd â’u harwyddocâd bellach wedi mynd yn hanesyddol, mae’r Tabernacl yn esiampl o lwyddiant – trwy gynnal cymuned sy’n addoli, trwy ddarparu ar gyfer plant a phobl ifanc,  a thrwy gefnogi gweithredoedd elusennol, cymunedol a chymdeithasol. Mae hyn yn creu galwadau na all yr adeiladau presennol eu hateb, a hynny’n llyffetheirio ein bwriadau.

Am y rhesymau hyn, byddai troi’r freuddwyd  yn ffaith yn golygu buddsoddi mewn corff sy’n meddu ar egni a gweledigaeth.  Mae’n cyflawni sawl swyddogaeth bwysig o fewn y gymuned y mae’n ei gwasanaethu; fodd bynnag, rydym yn grediniol y byddai gwireddu’r cynllun adeiladu  yn galluogi cyfoethogi’r cyfraniad mewn modd arwyddocaol ac yn rhoi cyfle i gyfrannu’n llawnach i fywyd y gymuned.

Mae croeso i unrhyw un gyfrannu at y gronfa i wireddu’r cynllun hwn: rydym yn gwerthfawrogi pob ceiniog. I wneud hynny dylech lawrlwytho’r daflen hon sy’n cynnwys ffurflen a chyfeiriad y Trysorydd.

I ddarllen ymhellach am y Cynllun Adeiladu, dylid lawrlwytho’r Prosbectws dwyieithog sy’n cael ei anfon i wahanol gyrff a mudiadau gyda’n cais am arian.

Datganiad i’r Wasg 25 Tachwedd 2009

 TROI HEN FESTRI YN GANOLFAN GYMUNEDOL

Bydd cynllun uchelgeisiol gwerth £450,000 yn dechrau yr wythnos hon i adnewyddu’r hen festri sy’n perthyn i gapel y Tabernacl, Efail Isaf, ger Pontypridd. Caiff y prosiect ei ariannu ar y cyd gan Y Loteri Genedlaethol a’r Cynulliad, a’r disgwyl yw y bydd y gwaith o ymestyn ac ail-wampio’r adeilad i’w droi’n ganolfan gymunedol yn cymryd rhyw saith mis.  Y bwriad yw addasu’r hen festri, a godwyd yn wreiddiol ddechrau’r ugeinfed ganrif, i fod yn ganolfan aml-bwrpas at ddefnydd y capel a’r gymuned yn gyffredinol. Mae gan y Tabernacl ddwy gynulleidfa, y naill yn addoli trwy gyfrwng y Gymraeg a’r llall yn cynnal oedfaon Saesneg, ond bydd yr adeilad newydd ar gael at ddefnydd cylch llawer ehangach o bobl, o fewn y pentref ei hun a’r ardal o gwmpas.  Dyfarnwyd grant o £300,000 gan Raglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol y Cynulliad, a £122,000 gan gronfa Pawb a’i Le, Y Loteri Genedlaethol.