Sefydlu y Capel
Erbyn 40au’r 19eg ganrif, roedd pentref Efail Isaf wedi’i amgylchynu gan fwrlwm o weithgaredd mewn gwahanol gapeli Annibynnol, a sawl un ohonyn nhw’n efengylu’n egnïol yn yr ardal. Ar un ochr roedd Capel Groeswen, Eglwysilan, a ddisgrifiwyd gan yr hanesydd R. Tudur Jones fel “prif bwerdy ysbrydol y fro”. Roedd dylanwad y capel yn fawr ar ardal eang, ac fe gyrhaeddodd ei benllanw yn ystod gweinidogaeth Griffith Hughes yn hanner cyntaf y cyfnod rydym yn sôn amdano. Daeth capel Groeswen yn fam-eglwys i sawl achos dan yr Annibynwyr a’r Methodistiaid Calfinaidd yng nghyffiniau Llantrisant, Caerffili a chyrion Caerdydd.

Capel Taihirion
I’r de o Efail Isaf roedd capel bywiog arall yn Rhydlafar, rhwng Pentyrch a Sain Ffagan. Sefydlwyd eglwys Taihirion hithau rywdro yn 60au’r 18fed ganrif, ac er mai capel bychan iawn oedd hwn, cafodd ddylanwad sylweddol ar grefydd yn y fro. Roedd capel Bethlehem, Gwaelod-y-garth eisoes wedi’i sefydlu dan adain Taihirion ers 1831.

Dan anogaeth rhai o genhadon y ddau gapel hyn, dechreuodd criw o bobl ymgasglu at ei gilydd yn nhafarn y Carpenters yn Efail Isaf oddeutu’r 40au, a phenderfynwyd gwneud cais i eglwysi Taihirion a Gwaelod y Garth am gael capel yn Efail Isaf ei hun. Yn ôl R. Tudur Jones, y ddau brif ladmerydd oedd Philip Williams, un oedd newydd symud i fyw i’r pentref, a William Lewis, diacon yn Nhaihirion, yntau hefyd yn byw yn Efail Isaf. Cefnogwyd y cais yn frwd gan Lemuel Smith, gweinidog ifanc Taihirion a fu farw’n annhymig iawn yn 27 oed, a hynny cyn gweld agor y capel newydd. Derbyniwyd rhodd o dir gan Thomas Philips, Ysgubor Fawr, Sain Ffagan, ac agorwyd y Tabernacl yn swyddogol ym 1843. Yn 1991 traddodwyd darlith gan y Parchedig Ddoctor R Tudur Jones ar gefndir yr achos yn Efail Isaf. Gellir ei ddarllen yma >> Cefndir
Saif Capel Taihirion ger draffordd yr M4 yng Nghapel Llanilltern i’r gorllewn o Rhydlafar ar yr A4119. Adfeilion sydd yno erbyn hyn. Mae erthygl am Taihirion yn Garth Domain Rhif 24 >> Taihirion
Adeiladu’r Capel yn Efail Isaf
Ar ôl bod yn y longroom am rai misoedd, penderfynwyd chwilio am le cyfleus i godi capel arno. O’r diwedd cafwyd darn o dir, yn cynnwys lle i fynwent, ar brydles o
fil-ond-un o flynyddoedd gan Thomas Phillips, Ysw., Ysgubor Fawr, Sain Ffagan, am rent o ddeg swllt y flwyddyn. Ddechrau 1842 gosodwyd y sylfaen. Roedd craig fawr yn un o gaeau cyfagos Garth Isaf. Chwalwyd hon gan y dynion yn y nosweithiau a chariodd y merched y darnau at wasanaeth y saer maen yn ystod y dyddiau canlynol. Does dim cyfrif o’r gost ariannol, ac mae’n debyg nad oedd yn fawr iawn. Cymerodd y Tabernacl cyntaf bron i flwyddyn i’w adeiladu a chafodd ei agor ym mis Ionawr 1843. Levi Lawrence, gweinidog a oedd newydd ddod i Lantrisant, a gymerodd ofal o’r eglwys am y blynyddoedd nesaf hyd 1847.
Fu’r flwyddyn honno o adeiladu ddim heb ei phroblemau na’i chyfnodau dwys. Ar ôl codi’r waliau yn barod i roi’r to arnyn nhw, cododd storm enbyd a chwythwyd y pingwn nesaf i’r fynwent i’r llawr. Roedd bedd wedi ei agor yn ymyl i gladdu merch fach Bili’r Gof o Lanmyddlyn. Bu’n rhaid gohirio’r angladd am ddiwrnod neu ddau. Dyna’r cynhebrwng cyntaf i’r fynwent newydd.
1841 – 1904
1841 Dechreuwyd yr ‘achos’ yn Efail Isaf – Cangen o Eglwys Taihirion, Rhydlafar gyda’r Parch Lemuel Smith yn Weinidog.
“Cychwynnwyd yn y ‘longroom’ perthynol i dafarndy’r pentre a elwir ‘Carpenters’ Arms’. Safai yr ystafell hon ar wahân i’r ‘Carpenters’ yn ymyl yr ardd, lle’r oedd grisiau yn esgyn iddi o’r tu allan”. (O lyfryn y Canmlwyddiant 1941)
Penderfynwyd adeiladu capel ar dir fferm Y Celyn.
1842 Gosodwyd y sylfaen ar ddechrau’r flwyddyn. Bu farw Y Parch Lemuel Smith. Sefydlwyd y Parch Levi Lawrence yn Weinidog.
1843 Adeiladwyd ac agorwyd y capel cyntaf.
1847 Gadawodd y Parch Levi Lawrence i ofalu am Eglwys Adulam, Merthyr Tudful.
1851 25 o aelodau gyda’r Parch John Taihirion Davies yn Weinidog.
1869 71 o aelodau a’r capel cyntaf wedi mynd yn rhy fach. Penderfynwyd adeiladu capel newydd.
1870 Gorffennaf 3ydd a 4ydd. Agorwyd y capel presennol ar gost o £830.00.
1878 Aelodaeth yn 144. Erbyn diwedd y flwyddyn collwyd 27 o aelodau oherwydd cau pob pwll glo yn y gymdogaeth. Symudodd yr aelodau yma i’r Rhondda a Chwm Garw.
1898 Codwyd y festri a’r stabl oddi tano am £250.00
1901 Medi. Cynhaliwyd Cyfarfodydd Jiwbilî i ddathlu hanner can mlynedd gweinidogaeth John Taihirion Davies.
1904 Bu farw Y Parch. John Taihirion Davies.
Gweinidogion
Lemuel Smith oedd gweinidog ifanc Taihirion a gefnogodd sefyldu capel yn Efail Isaf. Bu farw’n annhymig iawn yn 27 oed, a hynny cyn gweld agor y capel newydd.
Mae erthygl am Lemuel Smith yn y Garth Domain 23 > Garth
Ym 1851, rhoddwyd galwad i’r Parchg John Davies o Dreforus i ddod yn weinidog ar eglwysi Taihirion a’r Tabernacl, ac fe arhosodd yn Efail Isaf hyd ddiwedd ei oes yn 1904.
GWEINIDOGION
Y Parchedig Lemuel Smith 1841 – 1842
Y Parchedig Levi Lawrence 1842 – 1847
Y Parchedig John Taihirion Davies 1851 – 1904
John Taihirion Davies
Mae dylanwad y Parch John Taihirion Davies ar y capel a’r ardal yn enfawr. Bu’n weinidog am gyfnod o 55 mlynedd.

Gymaint oedd gwerthfawrogiad a pharch ei gynulleidfa ato fe osodwyd cofeb tu ôl i’r pulpud yn y capel.
Dyma ran o’i Fywgraffiad o Lyfr y Canmlwydiant
JOHN TAIHIRION DAVIES. – Ganwyd ef yn y flwyddyn 1825, ym Mhlwyf Llangyfelach. Cafodd ei dderbyn yn bedair-ar-ddeg oed, gan y Parch. J. Davies, Mynyddbach. Dechreuodd bregethu dan weinidogaeth ei frawd Thomas Davies, yn Horeb, Treforus. Pan weithiau fel crwt yn un o weithiau tân Treforus, arferai y gweithwyr dalu `turn’ iddo bob tro y byddai Cyfarfod Blynyddol yn y cylch, er mwyn iddo fynd yno i wrando y pregethau, a’u hail-adrodd wrth y gweithwyr drannoeth yn ystod yr awr ginio. Bu hyn yn gynhorthwy mawr iddo i ddatblygu ei gof, i ymarfer traddodi, a’i drwytho mewn athrawiaeth grefyddol.
Daeth i’r Efail Isaf yn ddyn ieuanc 26ain oed, yn llawn ynni a brwdfrydedd. Gwnaeth ei lety yn fferm Rhydlafar, ryw hanner milltir yn nes i gyfeiriad Caerdydd na Thai¬hirion. Yr oedd ganddo ddwy filldir i gerdded oddiyno i’r Bronllwyn, a phedair milltir i’r Efail Isaf. Wedi cychwyn achos Bronllwyn, pregethai yn y tair eglwys ambell Sul.
Rhoddodd i fyny Taihirion yn y flwyddyn 1893, ac aeth i fyw i Bentyrch, gerllaw Bronllwyn, lle bu nith iddo yn gofalu am ei dŷ am rai blynyddoedd. Priododd yn y flwyddyn 1895 â Miss Mary Walters, Y Faerdref, ac yn fuan wedi hyn, rhoddodd i fyny gofal eglwys Bronllwyn. Adeiladodd dŷ yn Church Village, ac yno yn “Huanfa” y bu fyw, nes iddo gael ei symud i’r Tŷ nad o waith llaw, “tragwyddol yn y Nefoedd.”
Cymerodd ddiddordeb ymhob cylch o fywyd. Gwnaeth ei orau i ddyrchafu diwylliant a manteision addysg yn yr ardal. Ef ydoedd Cadeirydd yr hen “School Board”, a bu yn flaenllaw ynglyn â’r gwaith o adeiladu ysgol i gwrdd â gofynion y cylch.
Mynych y gwelwyd ef ar lwyfan Politicaidd, a byddai ei arabedd a’i hiwmor bob amser, yn tynnu allan gymeradwyaeth y dyrfa yn un fanllef. Nid oedd un cyfarfod yng Nghyfundeb Dwyreiniol Morgannwg yn gyfiawn, os na fyddai `Davies, Taihirion’ ynddo, ac yn cymeryd rhan. Adnabyddwyd ef am lawer blwyddyn fel “Esgob y Fro.” Yr oedd Mr. Davies yn gasglwr dihafal, ac yn werthwr tocynnau heb ei debyg.
Fel pregethwr, byddai yn cael `yr awel’ o’i du yn fynych. Wrth bregethu ar dro yn Aberystwyth, torrodd yn foliannu drwy yr holl le, a bu’n ddiwygiad yno am beth amser wedi iddo ymadael. Dro arall, cafodd oedfa debyg yng Nghroesoswallt, ac ymhen ychydig derbyniodd alwad daer oddiyno i’w bugeilio. O bosibl, mai hon oedd yr unig alwad a gafodd yn ystod ei weinidogaeth, ond teimlodd fod y cwlwm yn rhy dynn rhyngddo â’r Efail Isaf i’w derbyn. Yr oedd ei serch gymaint at Taihirion hefyd, er iddo roi yr eglwys honno i fyny yn y flwyddyn 1893, fel y mynnodd gael ei adnabod bellach fel John Taihirion Davies. Bu farw Medi 1904, wedi gwneud diwrnod da o waith, ac ni adawodd neb fwlch mwy ar ei ôl. Heddwch i’w lwch.



Roedd Diwygiad 1904-05 wedi bod o fydd i ehangu’r achos yn y Tabernacl ac yn ystod y cyfnod rhwng y ddau Rhyfel Byd bu galw i ehangu ac adeiladu capel ym Mhentre’r Eglwys.


Roedd dylanwad Miss Margaret Rosser (1882 – 1967) ar y Capel, yr ardal a’r iaith Gymraeg yn sylweddol iawn.

.



Cadwodd pentref Efail Isaf ei gymeriad Cymraeg a Chymreig am flynyddoedd lawer, a does dim dwywaith nad oedd y capel yn gymorth mawr i hynny. Fel ym mhob capel, bu yma genedlaethau o arweinwyr a chymwynaswyr disglair, a hwythau’n bobl oedd yn gefn i’r bywyd Cymraeg mewn talcen caled ym Mlaenau Morgannwg am flynyddoedd lawer. Bu’r Parchg. D. Stanley Jones yn weinidog yma am flynyddoedd, ac roedd bri mawr ar y côr plant oedd yn perthyn i’r capel. Ond maes o law, fe adawodd y dylanwadau estron eu hôl, ac fe ddechreuodd yr achos ddirywio yn y Tabernacl.
Cofiaf yn dda symud i fyw o Gaerdydd i Don-teg yn 1968 ac ar ôl clywed pregeth Saesneg yn un neu ddau o gapeli honedig Gymraeg y cylch, dyma fentro i’r Tabernacl un bore Sul, Nid oeddwn yn gwybod enw’r capel, pa enwad ydoedd na chwaith iaith y gwasanaethau. Holi gwraig yn y cyntedd a





Wrth i’r to newydd o blant dyfu yn y capel gwelwyd yr angen am weithgareddau i bobl ifanc. Fe enwyd y criw ar ôl Twm, cath Eirian ac Ann Rees a ymunai â’r dyrnaid o bobl ifanc oedd yn cyfarfod bob nos Sul ar yr aelwyd yn Efail Isaf yn 1985.


Mae’r Ysgol Sul wedi cynnal y capel gan fagu to ar ôl to o aelodau newydd.
I ateb y galw am well cyfleusterau bu’r capel yn edrych ar ffyrdd i ychwanegu at y ddarpariaeth oedd ar gael i’r gynulleidfa ac i’r gymuned.
