Y TREFNIADAU BUGEILIOL

Y TREFNIADAU BUGEILIOL

Yn wyneb cyhoeddiad diweddaraf y llywodraeth ar yr argyfwng yr ydym i gyd yn ei wynebu yn sgil y coronafeirws, mae Bwrdd y Cyfarwyddwyr yn eu doethineb wedi penderfynu cau’r Tabernacl a’r Ganolfan i bob gweithgarwch. Felly ni chynhelir oedfaon nac Ysgol Sul am y tro. Byddwn yn adolygu’r sefyllfa yn rheolaidd dros y misoedd nesaf ac yn gobeithio medru ailymgynnull unwaith y bydd yr amgylchiadau wedi gwella. Yn y cyfamser, hyderwn y byddwn yn cefnogi ein cyd-aelodau ac aelodau’r gymuned ehangach i wrthsefyll yr haint orau gallwn ni. Ceir rhagor o fanylion sut y medrwn gynorthwyo ein gilydd isod . . .

GWASANAETH GOFAL

Os ydych angen help neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, yna mae croeso i chi gysylltu â Geraint Wyn (02920 890501 / geraintdavies888@btinternet.com) neu Lowri Roberts (01443 228196 neu 07812 089870/ lowri@glancreigiau.plus.com).

GWASANAETH DANFON BWYD

Cliciwch YMA i weld pa gwmnïau lleol sy’n cynnig gwsanaeth danfon bwyd i gwsmeriaid sy’n hunan-ynysu.

CASGLIAD AT DDIFROD Y LLIFOGYDD

DIOLCH YN FAWR IAWN i chi i gyd am eich ymateb anhygoel i’r apêl yma. Drwy haelioni dihysbydd aelodau a chyfeillion y Tabernacl, mae’r casgliad wedi cyrraedd £1,800 yn barod, gydag wythnos i fynd, a heb gyfrif cyfraniad canolog gan y capel. Bydd John Llew yn trosglwyddo siec i Rhoddion Llifogydd RhCT ddiwedd y mis.
 
BANC BWYD TAF ELÁI
A CORONAVIRUS
Mae’r Gweithgor Cyfiawnder Cymdeithasol yn awyddus i barhau â’n cefnogaeth i’r Banc Bwyd lleol yn ystod yr amser dyrys sydd o’n blaenau. Rydyn ni i gyd wedi clywed ar y newyddion ei bod hi’n argyfwng ar yr elusen yn wyneb y cyfyngiadau presennol, a’r angen am eu help yn cynyddu wrth i bobl wynebu caledi ychwanegol.
Fel y gwyddoch, mae’r Tabernacl ers blynyddoedd yn hwb casglu bwyd ac yn helpu gyda’r casgliad blynyddol yn Tesco. Mae’n amhosib cynnal y drefn hon oherwydd y cyfyngu presennol ar ymgynnull a chymdeithasu, ac wrth ddiolch i chi am gefnogi un apêl, rydyn ni’n gofyn i chi fynd i’ch pocedi unwaith eto.
Ein gobaith ydy anfon siec sylweddol at y Banc Bwyd fel bo modd i’w trefnwyr brynu’r bwyd sydd ei angen. Rydyn ni wedi derbyn £350 yn barod, ac yn gobeithio ychwanegu’n sylweddol at hyn, a gofyn i’r capel yn ganolog am gyfraniad hefyd.
Gofynnwn i chi anfon siec at Arwyn Jones, ein trysorydd, yn daladwy i Capel y Tabernacl Cyf, gyda nodyn yn enwi’r Banc Bwyd. Dyma ei gyfeiriad:
Mr Arwyn Lloyd Jones
Tŷ Newydd
39 Parc Bryn Derwen
Llanharan
Pontyclun
CF72 9TU
 
Neu medrwch wneud trosglwyddiad banc i:
Côd didoli 30-96-72 Rhif cyfrif 03607499
a chofiwch gynnwys eich enw a nodi Banc Bwyd.
 
Rydyn ni’n ymwybodol eich bod, fel arfer, yn falch o gyfle i ymestyn allan at y gymuned leol, a hynny mewn ffordd ymarferol, ac yn hyderus y bydd eich ymateb mor galonogol ag erioed.
 
WYTHNOS CYMORTH CRISTNOGOL
Am resymau amlwg, ni fydd hi’n bosib codi arian yn y dulliau arferol eleni, ac mae Cymorth Cristnogol yn gofyn i’w cefnogwyr fod yn ddyfeisgar er mwyn cynnal prosiectau pwysig ac amddiffyn y tlawd a’r anghenus yn ein byd yn ystod argyfwng Coronavirus.
 
Os oes gennych unrhyw awgrymiadau, plîs cysylltwch â
johnllewt@hotmail.com
neu
ann.pentyrch@btinternet.com