Archifau Categori: Newyddion

APÊL MADAGASCAR 2018/2019

APÊL MADAGASCAR 2018/2019

Mae apêl Undeb yr Annibynwyr Cymraeg eleni’n anelu at godi £200,000 i helpu Madagascar, un o wledydd tlotaf y byd. Bydd yr arian yn cefnogi prosiectau i ddarparu lloches i ferched bregus, meddygfa a deintyddfa i bobl anghenus, cartref i blant amddifad, a chynllun i hyfforddi gweinidogion i ddysgu’r bobl sut i dyfu mwy o gnydau er mwyn lliniaru problemau diffyg maeth.

Daw’r apêl i ben ym mis Mehefin 2019, a’n gobaith ni fel capel yw casglu £30 gan  bob aelod dros y flwyddyn. Erbyn diwedd mis Medi bydd amlenni pwrpasol ar gael i bob aelod gyfrannu yn ôl eu dymuniad, a chyflenwad i gyfeillion yn ein plith sy’n awyddus i gefnogi. Mae croeso mawr i unrhyw un drefnu achlysur fel bore coffi hefyd, i chwyddo’r coffrau.

 Byddai’n braf anelu at godi dros £5,000 fel coron deilwng ar ymdrechion gloyw Merched y Tab i groesawu’r bobl o Fadagascar fu yma yn ystod dathliadau’r daucanmlwyddiant ym mis Mehefin.

Croesawu Ymwelwyr o Fadagasgar

Croesawu Ymwelwyr

Bnawn Mawrth 5 Mehefin, croesawyd criw hawddgar o Gristnogion o Fadagasgar i’r Ganolfan i fwynhau cinio a baratowyd ar eu cyfer gan aelodau o Ferched y Tabernacl dan arweiniad Ros Evans. Roedd y criw wedi teithio i Gymru er mwyn chwarae rhan yn nathliadau Undeb yr Annibynwyr Cymraeg i gofnodi daucanmlwyddiant glaniad y ddau genhadwr cyntaf, sef David Jones a Thomas Bevan, a’u teuluoedd ym Madagasgar yn 1818. Fel rhan o’r daith ymwelsant â nifer o gapeli  a sefydliadau eraill yn ne Cymru.

Cyfeillion Madagasgar

Bu eu hymweliad â’r Tabernacl yn un hynod lwyddiannus. Wedi iddynt fwynhau eu cinio a chael eu tywys o amgylch y capel, roeddynt yn awyddus iawn i ddiolch i’r eglwys am y croeso trwy ganu emyn i’r rhai fu’n gweini arnynt. 

Diddorol oedd deall ganddynt bod yna gapeli ym Madagasgar hyd heddiw a godwyd gyda’r arian a gasglwyd at y genhadaeth gan genedlaethau o blant Ysgolion Sul Cymru, a bod dros bum miliwn o drigolion Madasgasgar yn medru olrhain eu heglwysi ffyniannus i’r cenhadon a deithiodd yno ddau can mlynedd yn ôl.

Cerddoriaeth Curiad Calon

♬ Cerddoriaeth
Curiad Calon 
 

Cyngerdd Tri Chôr

Côr Godre’r Garth / Côr yr Einion / Parti’r Efail

 Elw tuag at  

Apêl Diffibriliwr

Pentref Efail Isaf  

7yh Nos Sul 19eg Mawrth 2017

Capel y Tabernacl, Efail Isaf

Tocynnau £7 (Consesiynau £5)

Rhagor o fanylion i ddilyn

Newyddion Da – Rheolwr Safle

Newyddion Da – Rheolwr Safle

Ers diwedd yr haf, mae Bwrdd y Cyfarwyddwyr wedi bod yn hysbysebu am olynydd i Ann Dixey, a fydd yn ymddeol ddiwedd Rhagfyr.

Mae’n braf felly medru cyhoeddi ein bod bellach wedi llenwi’r swydd. O 1 Ionawr 2017 bydd Ioan Rees yn gweithredu fel Gofalwr y Safle, ac mae Caroline a Geraint Rees wedi cytuno’n garedig iawn i ofalu am y dyletswyddau gweinyddol megis derbyn ‘bookings’. Byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth megis y manylion cyswllt cyn diwedd Rhagfyr.

Ar ran yr eglwys mae’r Bwrdd am longyfarch Ioan a diolch iddo am ei barodrwydd i ymgymryd â’r dyletswyddau pwysig hyn. Dymunwn yn dda iddo yn y swydd.

ON Daw cyfle ym mis Ionawr i’r eglwys ddiolch i Ann Dixey am ei gwasanaeth gwerthfawr hi dros gyfnod o naw mlynedd a dymuno’n dda iddi ar ei hymddeoliad.

 

 

ELUSENNAU 2016:

ELUSENNAU 2016:

Dyma pwy fydd yn elwa o arian yr amlenni brown eleni

1. Mae New Horizons Mental Health Resource Centre, Aberdâr yn gweithredu ystod o ganolfannau yn cynnig adnoddau ac yn estyn llaw i bobl gyda phroblemau iechyd meddwl ac emosiynol yn Rhondda Cynon Taf. Mae’r Ganolfan yn hybu delwedd bositif ac yn herio gwahaniaethu ar sail iechyd drwy gyfrwng addysg, gweithio yn y gymuned, rhannu gwybodaeth, a chynnig cefnogaeth, ac yn cynnal prosiect arbennig i bobl ifanc rhwng 18 a 25 oed.

2. Nid dyma’r tro cyntaf i ni gefnogi Prosiect Gofalwyr Ifanc Rh.C.T. ac mae’n fraint cael gwneud hynny eto. Mae’r prosiect yn ceisio adfer ychydig o’u plentyndod i blant sy wedi gorfod tyfu i fyny yn llawer rhy gyflym oherwydd anawsterau teuluol sy’n eu gorfodi i ofalu am riant methedig neu wael ei iechyd.

Darperir cefnogaeth un i un, gweithgareddau grŵp a chysylltu â gweithgareddau cymunedol, gweithdai ac egwyl preswyl, er mwyn lleddfu ychydig ar faich ysgwyddau ifanc, a dod â rywfaint o normalrwydd plentyndod i’w bywydau.

3.  Mae hi’n flwyddyn ers i’r Samariaid, sy’n elusen gyfarwydd i bawb, lansio eu prosiect peilot yng Nghymoedd y De. Er eu bod ar gael i bawb sydd eu hangen ar ben arall y ffôn, maen nhw’n credu’n gryf mewn presenoldeb yn y gymuned er mwyn adnabod amgylchiadau cymdeithasol sy’n peri gofid ac anobaith i unigolion. Mae’r prosiect hwn yn arwyddocaol iddyn nhw am fod y gyfradd o ddynion sy’n cyflawni hunanladdiad yng Nghymru ar ei huchaf ers 1981. Mae’n bwysig iawn bod y prosiect newydd hwn yn cael cefnogaeth ariannol.

4.  Yn ôl ffigyrau Llywodraeth Cymru, mae mwy o blant a phobl ifanc angen help ymgynghorol yn Rhondda Cynon Taf nag unrhyw ardal arall yng Nghymru gyfan.

5.Mae’r gwasanaeth Eye to Eye  yn helpu pobl ifanc 10-25 oed yn yr ardal, drwy ysgolion a chanolfannau cymunedol, ac yn rhoi cyfle i unigolion bregus gael help proffesiynol gyda phroblemau sy’n eu llesteirio ac yn amharu ar ansawdd eu bywydau.  Mae’r gwasanaeth yn hygyrch, a’r rhai sy’n teimlo angen help yn gallu cysylltu drwy lythyr, alwad ffôn, ebost neu decst.

6.Mae Ysgol Tŷ Coch, Ton-teg, yn darparu addysg bwrpasol, berthnasol, bersonol, i blant 3-19 oed sydd ag anawsterau dysgu dwys, a hynny mewn awyrgylch ddiogel, ofalgar sy’n eu hysgogi i gyrraedd eu potensial.

 

TAFOD Y TAB

TAFOD Y TAB

Daeth yn amser paratoi’r rhifyn nesaf o Tafod y Tab i’w gyhoeddi ddiwedd Ionawr 2017. Mae croeso i unrhyw aelod anfon erthyglau / newyddion / lluniau / cyhoeddiadau i’w cynnwys y tro hwn. Anfonwch yn syth ar ôl y Nadolig, ac ar yr hwyraf erbyn Ionawr 3 2017 at emlyn.davies@which.net neu ann.pentyrch@btinternet.com

Croesawu Meddyg BanglaCymru

Croesawu Meddyg BanglaCymru

Ar Sul olaf Medi daeth Dr Jishumoy Dev draw o Bangladesh i sôn wrthym yn y Tabernacl am ei waith gyda BanglaCymru. Sefydlwyd yr elusen yn 2008 gan Wil Morus Jones i roi llawdriniaethau i blant sy’n dioddef o gyflwr gwefus a thaflod hollt yn ogystal â’r rhai sydd wedi dioddef llosgiadau difrifol.  Cyflawnir y gwaith mewn canolfan newydd pwrpasol ac yn Ysbyty Centrepoint yn Chittagong.  Hefyd bu’r tîm meddygol ar deithiau yn cynnal sesiynau mewn llefydd megis Varanasi, Cox’s Bazar a Tanagail.

wilbanglacymruimg_6825

Dr Jishumoy Dev

wilbanglacymruimg_6827

Wil Morus Jones a Dr Jishumoy Dev

Bangladesh, yn ôl ystadegau’r Cenhedloedd Unedig yw gwlad dlotaf Asia, ac mae mwy o blant yn cael eu geni gyda thaflod a gwefus hollt yma nag unrhyw ran arall o’r byd. Amcangyfrifir bod tua pum mil o blant yn cael eu geni gyda’r cyflwr hwn yn flynyddol ym Mangladesh ond dim ond eu hanner sy’n cael eu trin oherwydd diffyg cyllid a darpariaethau meddygol. Mae’r driniaeth yn newid bywydau’n ddramatig, nid yn unig o ran pryd a gwedd ond hefyd yn emosiynol, yn gymdeithasol ac yn economaidd. Cyflawnwyd dros 1200 o lawdriniaethau dros yr wyth mlynedd diwethaf.

Cewch ragor o fanylion, ynghyd â ffurflen i wneud cyfraniad ariannol YMA.

Dillad i Ffoaduriaid – Y Diweddaraf

DIOLCH  YN  FAWR

Diolch yn fawr i bawb fu mor hael eu rhoddion i’r ymgyrch helpu ffoaduriaid. Derbyniwyd cyflenwad helaeth o ddillad ac esgidiau pwrpasol a chyfraniadau ariannol sylweddol, a bu deuddeg o wirfoddolwyr yn brysur dros dri diwrnod yn didoli, pacio a chludo popeth.

Rydyn ni’n ffodus iawn bod y capel a’r Ganolfan ar gael i ni fel stordai diddos dros y cyfnod casglu. Mae ugain bocs mawr bellach ar eu ffordd i wersyll Moria ar Ynys Lesbos yng Ngwlad Groeg. Difawyd rhan o’r gwersyll yn ddiweddar gan dân mawr, a bydd ein llwyth ni yn helpu i liniaru ychydig ar yr amgylchiadau dybryd yn dilyn hynny.

 

Mae Lisa Maria Devlin, sy’n derbyn ein cyfraniadau ni yng Ngogledd Iwerddon wrth ei bodd gydag addasrwydd a safon y dillad. Maen nhw’n cyrraedd Ballymena dros nos o Gaerdydd, mewn lorri DHL. Fel y gallwch ddychmygu, dydy cludiant mor effeithiol ddim yn rhad, ac mae’r cyfraniadau ariannol yn helpu tuag at y treuliau hyn.

 

 

 

Rydyn ni’n lwcus mai elusen St Vincent de Paul sy’n gyfrifol am y cludiant i Wlad Groeg – taith deg diwrnod – ac yn tracio’r lorri ac yn sicrhau bod y nwyddau’n cyrraedd y dwylo iawn. Mae’r lorïau’n gadael Ballymena’n rheolaidd, a’u llwyth yn amrywio o nwyddau meddygol a bwyd a dillad i bebyll ac offer ymarferol, yn ôl y galw. Maen nhw’n barod i helpu ble bynnag mae angen, ac mae’n fraint cael bod yn rhan fechan o’u gweithgarwch.

Diolch yn fawr iawn i chi am fod mor barod i roi ysgwydd dan y baich.

Mae casgliad o luniau i’w gweld YMA